Lecturer – Hospitality and Catering
Crosskeys Campus
Lecturer – Hospitality and Catering
Salary: £13,194 - £25,965
18.5 hours per week
Working closely with a dedicated team of staff within the School of Services to People, you will be responsible for the delivery of Professional Cookery at all levels.
You will be an experienced chef, qualified to level three or above and have the ability to motivate and inspire students to improve their commercial skills and knowledge base in professional cookery and restaurant service. You will also have the ability to stretch and challenge learners to reach their full potential in the hospitality industry and have excellent communication and personal skills when dealing with young people.
The successful candidate should either hold or be working towards a recognised teaching qualification and Assessors and IQA awards. Pastoral experience would be advantageous and experience in leading a team is essential.
The ability to use the Welsh language at a basic level (or willingness to undertake training) is desirable.
Applications may be submitted in Welsh and will not be treated less favourably than applications submitted in English.
Requirements & Compliance
- Safeguarding: Appointment is subject to a satisfactory Enhanced DBS check and EWC registration (costs covered by the candidate).
- Qualifications: Lecturers must hold or be willing to achieve a teaching qualification (e.g., PGCE) within a set period.
Equality, Diversity & Inclusion
Coleg Gwent is an anti-racist, Disability Confident Employer committed to equality under the Equality Act 2010. We welcome all identities and neurodiverse talent, particularly encouraging applications from underrepresented groups (Minority Ethnic, Female, LGBTQ+, and people with disabilities). Support includes six staff networks (Race, LGBTQ+, Disability, etc.) and an ED&I steering group.
Staff Wellbeing
We provide comprehensive health support, including:
- Subsidised gym access and wellbeing activities.
- Access to the Headspace app and mental health champions.
- Accessible campuses and prayer rooms.
Closing Date: 05/07/26
Interview Date: 14/07/26
Campws Crosskeys
Darlithydd – Lletygarwch ac Arlwyo
Cyflog: £13,194 - £25,965
18.5 awr yr wythnos
Gan weithio'n agos gyda thîm ymroddedig o staff yn yr Ysgol Gwasanaethau i Bobl, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno Coginio Proffesiynol ar bob lefel.
Byddwch yn gogydd profiadol, gyda chymwysterau lefel tri neu uwch a bydd gennych y gallu i ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr i wella eu sgiliau masnachol a’u sylfaen wybodaeth mewn coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyty. Bydd gennych hefyd y gallu i ymestyn a herio dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial yn y diwydiant lletygarwch a bydd gennych sgiliau cyfathrebu a phersonol rhagorol wrth ymdrin â phobl ifanc.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus naill ai feddu ar neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu cydnabyddedig a dyfarniadau Aseswyr ac IQA. Byddai profiad bugeiliol yn fanteisiol ac mae profiad o arwain tîm yn hanfodol.
Mae’r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Gofynion a Chydymffurfiaeth
- Diogelu: Mae'r penodiad yn amodol ar ddal gwiriad DBS Manwl boddhaol a bod yn gofrestredig gyda'r CGA (rhaid i'r ymgeisydd dalu'r costau).
- Cymwysterau: Rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i'w gyflawni (e.e. TAR) o fewn cyfnod penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cyflogwr gwrth-hiliol a Hyderus o ran Anabledd yw Coleg Gwent, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob math o hunaniaeth a dawn niwroamrywiol, ac anogwn geisiadau oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, pobl LHDTC+ a phobl ag anableddau) yn arbennig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LHDTC+, Anabledd, ayyb) a Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cefnogaeth iechyd gynhwysfawr sy'n cynnwys:
- Mynediad i'r gampfa a gweithgareddau lles â chymhorthdal.
- Mynediad i ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau ac ystafelloedd gweddïo hygyrch.
Dyddiad Cau: 05/07/26
Dyddiad Cyfweliad: 14/07/26

